Bu farw Diana Phillips (20 Awst 1938-16 Tachwedd 2021) o’r Fali, Ynys Mon ac Ymddiriedolwr cychwynnol Sefydliad Anna Phillips, ym Mangor, Gwynedd ar 16fed Tachwedd 2021, yn 83 oed.
Mae’r ymddiriedolwyr yn talu teyrnged bythol i ymrwymiad dwfn Diana Phillips a’i chefnogaeth ac ysbrydoliaeth lwyr i waith y Sefydliad. Ar ôl colled trasiedig ei hwyres Anna yn 2015, chwaraeodd Diana ran allweddol wrth sefydlu’r elusen gofrestredig yn 2019, sy’n helpu pobl â heriau iechyd meddwl cysylltiedig â thrawma trwy hwyluso gweithgareddau ym myd natur.
Dilynodd Diana ddatblygiadau yn agos iawn a rhoddodd gyngor doeth a gwybodus iawn i’r ymddiriedolwyr eraill wrth i’r elusen symud ymlaen. Chwaraeodd ran fawr wrth helpu i drawsnewid Ty Anna yn raddol o fod yn ddaliad amaethyddol bach i fod yn goetir sy’n datblygu gyda bioamrywiaeth sy’n tyfu ac wedi’i gyfoethogi.
Ganed Diana ar fferm y teulu, Bod Deiniol, ger Llantrisant ar Ynys Mon ym mis Awst 1938, y nawfed o ddeg o blant i David Owen Davies (yn wreiddiol o Baclaw, Dyffryn Conwy) a Matilda Davies (Evans gynt) (yn wreiddiol o Garneddi, Bethesda).
Wrth atgofio’r ymdeimlad o ryddid yn tyfu i fyny ar fferm, a chofio gweld ei thad yn plannu coed derw ac afalau yn yr ardd islaw’r ffermdy, byddai Diana yn ddiweddarach yn ei bywyd tra’n byw yn y Gorad, Fali yn cyfleu’r profiadau hyn yn ei phlant a’i hwyresau.
Mae gardd o lonyddwch yn cael ei chreu er cof am Diana Phillips wrth ymyl y berllan yn Nhŷ Anna, fel cofeb barhaol i’w hysbrydoliaeth a’i hymrwymiad I’r egwyddorion o tosturiaeth, symlrwydd a chyfiawnder.
Diana Phillips
Ganed: Bod Deiniol, Llanbabo, Ynys Môn (20 Awst 1938)
Bu farw: Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd (16 Tachwedd 2021)

