Ein Gwaith

Sefydliad Anna Philips – Pwy Ydym Ni

Wedi’i sefydlu er cof cariadus Anna Elisabeth Phillips, mae’r Sefydliad yn Sefydliad Corfforedig Elusennol iechyd meddwl (neu “SCE”), sy’n cefnogi pobl gyda heriau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â thrawma.

Rydym yn darparu cefnogaeth a chyfleusterau ymarferol ac yn defnyddio ystod o therapïau, gan gynnwys ecotherapi, nidotherapi ac ymwybyddiaeth ofalgar ynghyd â gweithgareddau cymdeithasol grymusol eraill.

Mewn partneriaeth ag ymchwilwyr yn nidotherapi rydym yn ceisio deall sut y gall yr amgylchedd naturiol, gan gynnwys coetiroedd, helpu goroeswyr trawma ar eu taith o atgyweirio ac adfer.

Rydym hefyd yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o achosion cymdeithasol hunan-niweidio a hunanladdiad, a sut y gall ymgolli yn y byd naturiol fod o fudd i les meddyliol.

Gyda Pwy Rydym yn Cydweithio

Byddan yn partnerio gyda’r sector addysg uchel, y Burddau Iechyd, cyrff yn y Sector Trydydd ac eraill i roi cyfle i bobl gyda heriau iechyd meddwl, profiadau buddiol mewn cyd-destun naturiol sydd yn eu grymuso, sydd yn adeiladu eu hyder
ac yn gwellhau eu iechyd meddwl, lles a gwytnwch.

Neges Personol oddiwrth David Phillips, Sylfaenydd a Chadeirydd

Nod Sefydliad Anna Phillips yw adeiladu perthnasoedd cadarnhaol, buddiol a pharhaol gydag unigolion a sefydliadau o bob sector o’r gymuned leol ar Ynys Môn. Bydd canlyniadau o’r fath yn ein galluogi i ddarparu amgylchedd diogel, buddiol a chynaliadwy
i helpu’r holl fuddiolwyr i reoli eu heriau iechyd meddwl yn y ffordd fwyaf optimaidd.

Er ein bod yn canolbwyntio ar ein Gwrthrychau craidd, wrth gyflawni’r gweithgareddau hyn, mae’r Sefydliad hefyd wedi ymrwymo i ddiogelu’r amgylchedd naturiol a bywyd gwyllt, ac i sicrhau bod ein gwaith yn gyson â’r gwerthoedd sy’n sail i Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Yn uchwanegol, o gofio bod rhywfaint o’n gwaith o reidrwydd yn cynnwys darparu cyfleusterau i bobl sy’n agored i niwed, rydym yn cymryd materion diogelu o ddifrif a byddwn yn gweithio’n agos iawn gyda’r cyrff Diogelu perthnasol ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Byddwn yn gweithio o fewn y paramedrau a nodir yn Rhan 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae’r Sefydliad a’i holl waith yn gwasanaethu cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ac yn cynrychioli cof tragwyddol Anna.

Cydnabyddiaeth: Hoffem ddiolch o galon i Elusen Margaret Davies am eu rhodd hael iawn sydd wedi ein galluogi i adeiladu y wefan hon.

Anna Phillips

Scroll to Top