
Ein Hanes
Sefydliad Anna Philips – Ein Hanes
Mae bod yn ddiogel yn ofyniad dynol sylfaenol. Dim ond pan mae unigolyn yn teimlo’n wirioneddol ddiogel y caiff ddarganfod rhyddid.

Ganwyd Anna ym Mangor, Gogledd Cymru ar y Sul, 7 Mai 1995. Cafodd gofal arbennig iawn oddiwrth y nyrsys yn Uned Babanod Gofal Arbennig.
Treuliodd Anna ei blynyddoedd cynharaf yn Macclesfield, Sir Gaer, yn dechrau ei siwrne bywyd gan fynychu ysgol bach Montessori yn y dref, cyn symud i ysgol babanod. Yn ystod blynyddoedd cynnar ei bywyd roedd Anna wastad yn edrych ymlaen at ddychwelyd yn aml i’w chartref ysbrydol, sef Ynys Mon.
Pan ymwelodd a’i theulu ehangach ar yr Ynys roedd Anna’n wirioneddol yn ei helfen naturiol, yn rhydd i fynegi ei chymeriad ddigymell a rhyddhau ei hysbryd. Byddai Anna’n trafod gwahanol syniadau ac yn ymuno mewn profiadau newydd gyda brwdfrydedd ac egni.
Tra roedd Anna’n tyfu i fyny parhaodd i hiraethu am ei hafan ysbrydol ar yr Ynys, a manteisiodd bob cyfle gyda brwdfrydedd i fwynhau amseroedd amhrisiadwy gyda’i chefndryd a’i theulu estynedig. Fel gofalwr naturiol roedd Anna yn pryderu am les eraill, a byddai pob amser yn gwneud ei gorau i leddfu eu beichiau.
Roedd Anna wrth ei bodd yn crwydro a darganfod trysorau cornel mor hyfryd o Gymru gyda’i chefndryd. Byddai’n cymryd rhan actif a brwydfrydig yn eu holl anturiaethau, fel nofio, hwylio o amgylch arfordir yr Ynys, cerdded y traethau a llwybr arfordirol Ynys Mon, neu ymdrechu I ofalu am yr amgylchedd naturiol wrth blannu coed, mysg pethau eraill. Hyd yn oed yn yr amgylchiadau gorau mewn bywyd mae’n her I lywio llwybr ddiogel rhwng plentyndod ac ieuenctid. Roedd Anna yn ferch ifanc a dyfodd i fynu o flaen ei hamser, ac yn anffodus gosododd anghenion a diddordebau ei hun o’r neilltu rhai ag awdurdod drosti. Yn ei chalon ac enaid roedd Anna yn unigolyn creadigol, ddigymell, cariadus a llawn hwyl , ond oherwydd amgylchiadau anffodus nid chafodd yr agwedd hon o’i phersonaliaeth naturiol y cyfle i ffynnu.
Pan ymwelodd Anna â’r Ynys yn ystod Hâf 2014 roedd yn amlwg bod ei hiechyd wedi dirywio. Roedd hi newydd gwblhau y flwyddyn gyntaf o astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Southampton. Yn anffodus yn ddiweddarach y flwyddyn honno roedd rhaid iddi atal ei hastudiaethau oherwydd i’w salwch waethygu. Er hynny, erbyn dechrau 2015 roedd Anna’n gweithio fel host mewn ysbyty yn Truro, yng Nghernyw.
Bu farw ar fore 1 Mehefin 2015 yn Truro. Y digwyddiad terfynnol i’w dirywiad oedd llyncu dos uchel o cemegyn a ddarganfuwyd yn ei gwaed.
Mae gwaith Sefydliad Anna Phillips yn gofeb byw i’w brywdr â thrawma ac iselder trwy gydol ei hoes fer. Nod y Sefydliad yw helpu eraill sydd yn gwynebu heriau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â thrawma.
Mae bod yn ddiogel yn ofyniad dynol sylfaenol. Dim ond pan mae unigolyn yn teimlo’n wirioneddol ddiogel y caiff ddarganfod rhyddid.
Bydded ei chof yn fendith.

