
Gwirfoddolwyr
Sefydliad Anna Phillips – Gwirfoddolwyr
Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr waith gwirfoddolwyr yn Sefydliad Anna Phillips a’r cyfraniad aruthrol y gallant ei wneud i gyfoethogi profiad buddiolwyr yn yr amgylchedd naturiol.
n y modd hwn gall gwirfoddolwyr helpu i wneud newid ystyrlon a pharhaol i fywydau eraill ac felly dros y tymor hir ychwanegu at iechyd meddwl a lles cyffredinol.
Fel darpar wirfoddolwr:
- Ydych chi am wneud newid gwirioneddol a pharhaol i fywydau pobl eraill?
- Ydych chi’n hoffi bod yn rhan o dîm a helpu eraill?
- Ydych chi am ymgymryd â her newydd?
Pe baech yn ateb “ydw” i unrhyw un o’r uchod, byddem yn hapus i glywed gennych. Yn y lle cyntaf, galwch linell atom yn gwirfoddolwyr@annaphillips.org neu defnyddiwch y dudalen Ffurflen Gyswllt yma.
Byddai gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl sydd â phrofiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc, oedolion agored i niwed, a phobl ag anghenion arbennig.
Fel rhan o’n polisi diogelu, mae ein holl wirfoddolwyr yn cael eu gwirio’n llawn gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

