
Ein Gweledigaeth
Sefydliad Anna Phillips – Ein Gweledigaeth
Rhyddid personol a lles meddyliol ar gyfer byd mwy diogel, wedi’i sicrhau a’i gynnal gan dosturi, cyfiawnder a pharch at ein gilydd.
Ein Cenhadaeth
Trwy dynnu ar brofiad bywyd Anna, i helpu a grymuso pobl sydd â heriau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â thrawma, ddod o hyd i ffyrdd newydd o wella a chynnal eu lles. Ein nod yw cyflawni hyn trwy hwyluso gweithgareddau buddiol mewn amgylchedd diogel, naturiol.
Ein Hegwyddorion
Tosturi
Mae ein gwaith yn adlewyrchu rhinwedd a theimlad tosturi. Trwy helpu pobl sydd â heriau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â thrawma, rydym yn cymryd agwedd ragweithiol, gyda golwg positif, gadarnhaol ar fywyd o’r cyflwr dynol. Mae pob person yn unigryw gydag anghenion penodol ac unigol. Rydym wedi ymrwymo i barchu anghenion pob unigolyn. Mae hefyd yn siarad â doethineb fyd-eang barhaus.
Symlrwydd
Gall ymddangos bod ein byd a’n bywydau mor gymhleth, ac mae angen sylwebaeth, dadl a dadansoddiad er mwyn darganfod ystyr. Gyda symlrwydd rydym yn profi’r byd o’n cwmpas fel yr ydym pob anadl. I ddod yn agosach at symlrwydd, mae rhaid gadael gafael, a dysgu i ddatgysylltu oddi wrth beichiau bywyd bob dydd. Gwir ystyr symlrwydd yw bod yn bresennol, i deimlo harddwch natur o’n cwmpas. Mae’n rhinwedd ysbrydol. Yn ein presennol mae gwirionedd tragwyddoldeb.
Cyfiawnder
Ni chawn hapusrwydd, na chydraddoldeb barhaus, na dynoliaeth, heb gyfiawnder. Cyfiawnder yw’r garreg sylfaen, y gwir angor sy’n atal ein hegwyddorion dynol (ein hawliau dynol a dyletswyddau) rhag fod ond yn “diddordebau”. Fel y sylwodd Aristotle, “credir yn aml mai cyfiawnder yw’r pwysicaf o’r rhinweddau, ac nid yw seren gyda’r nos na seren y bore cymaint o ryfeddod.” Gyda’r egwyddor hon fel ein conglfaen, ynghyd â thosturi a symlrwydd, gall pob person sicrhau mwy o ymdeimlad o ddiogelwch, lles meddyliol a rhyddid personol barhaus.

