Dioddefwr Troseddau, Adolygiad o Wasanaethau gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Ydych chi wedi dioddef trosedd? Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn cynnal adolygiad o wasanaethau ar gyfer pobl sydd neu sydd wedi bod yn ddioddefwyr trosedd, a hoffai wybod eich barn.


Gall bod yn ddioddefwr trosedd fod yn brofiad trawmatig a gall effeithio ar bob person mewn gwahanol ffyrdd. I rai, gall y trawma fod yn hylaw gyda’r math cywir o gymorth a phecyn cymorth tra i eraill gall gael effaith fwy hirdymor a dyfnach gan fod angen gofal a therapi mwy arbenigol.


Er mwyn helpu’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i ddeall profiad pobl yn well gyda’r gwasanaethau hanfodol hyn a ddarperir i ddioddefwyr troseddau, ac i weld pa welliannau y gellid eu hystyried, a fyddech cystal â rhannu eich barn yn yr arolwg isod sy’n gwbl gyfrinachol ac yn ddienw.


Fel dioddefwr trosedd mae eich profiad yn unigryw i chi yn ogystal â’r trawma y gallech ei ddioddef. Drwy rannu dim mwy na 10 munud o’ch amser gyda’r arolwg hwn gallwch helpu Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wrth iddynt weithio i adeiladu amgylchedd mwy diogel, lle bydd dioddefwyr trosedd yn teimlo’n fwy hyderus ar eu llwybr at adferiad a llesiant. .


Dyma’r ddolen i’r arolwg:

https://www.surveymonkey.co.uk/r/W7FQ9C6

Os yw trosedd yn effeithio arnoch chi, gallwch ffonio eich tîm gofal dioddefwyr lleol yng Ngogledd Cymru ar 0300 30 30 159, 8.00 am i 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 9.00 am i 5.00 pm ar ddydd Sadwrn.


Y tu allan i’r oriau hyn gallwch ffonio’r Ganolfan Cymorth i Ddioddefwyr yn rhad ac am ddim ar 08 08 1689 111

Mwy o wybodaeth am Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yma:

https://www.northwales-pcc.gov.uk/cy/Hafan.aspx

Scroll to Top